top of page
346132141_538528098495087_3750778969154119445_n.jpg

#EquiExplorers

Ydych chi berchen ceffyl , yn mwynhau hacio ac yn byw yn y Deyrnas Unedig. 

Sialens hacio yw EquiExplorers i'ch annog i hacio a chwblhau sialensau o 20, 50 , 100, 500 neu 1000 miltir. Wedi i chi gwblhaiu sialens wnewch chi dderbyn roset..

Ydych chi dod o hyd i lefydd newydd  neu yn chwilio am sialens nawr fo'r haf yma a'r tywydd yn gwella. 

Ydych chi eisioes yn hacio eich ceffyl neu'n chwilio am wella eich ffitrwydd a'ch hyder?

​

Pwrpas #EquiExplorers yw mwynhau a chwilio am ardaloedd newydd i greu atgofion newydd. Mae pob sialens yn eich dwylo chi, chi sy'n rheoli eich amser eich hun ac mi fedrwch gymryd eich amser i gwblhau pob sialens.D'oes dim terfyn amser ar gwblhau sialens, ac fe fyddwch yn ennill roset wedi i chi gwblhau pob sialens unigol. Cofiwch annog eich teulu a ffrindiau i gymryd rhan. Peidiwch ag oedi  haciwch ymlaen!

 

#EquiExplorers

​

Sut ma hyn yn gweithio?

​

Sialens hacio yw EquiExplorers ar gyfer pob oed  a gallu gyda roset fel gwobr i ddathlu eich llwyddiannau. Pam na wnewch chi anelu at gasglu roset ar gyfer y 5 sialens!

​

  • Mi allwch arwyddo i fyny i gymryd rhan yn  EquiExplorers islaw ( Y gost yw £5 ar gyfer pob sialens rydych yn dewis ei chwblhau) unwaith bydd eich taliad wedi ei wneud derbyniwch ebost i gadarnhau eich archeb fydd yn cynnwys ni lawlwytho  PDF o'ch cerdyn cofnodi.

  • Printiwch eich cerdyn a chadwch yn ddiogel i recordio eich holl filltiroedd. Rhowch gylch o gwmpas y sialens r'ych chi wedi ei ddewis - unai 20, 50, 100, 500 neu 1000 milltir. D'oes dim terfyn amser ar gyfer cwblhau sialens,

  • Rhaid i'r cerdyn gofnodi milltioredd hacio yn unig ac mae marchogaeth pleser hefyd yn cyfri. 

  • Wedi i chi gwblhau y sialens rydych wedi dewis 20, 50, 100, 500 neu 1000 milltir gyrrwch eich cerdyn i swyddfa EquiCymru, Bronaeron, Felinfach, Llanbedrpontsteffan, Ceredigion, SA48 8AG (rydym yn eich annog i ddewis postiad wedi ei recordio i sicrhau ei fod yn cyrraeed yn ddiogel) neu cymerwch lun o'r cerdyn recordio a'i yrru at passports@equicymru.co.uk

  • Rhannwch eich anturiaethau a'ch straeon gyda ni drwy Instagram                                                                                                               @EquiCymru (defnyddiwch hashtag #EquiExplorers) neu ebostiwch y llun at                                                                                           passports@equicymru.co.uk ac  mi allech ymddangos ar ein gwefan neu ar ein platfformau cymdeithasol.

  • Yn fwy na dim mwynhewch yr antur gan greu atgofion gyda'ch ceffyl.

Mae nifer o appiau Ceffylog sy'n eich helpu i gofnodi  pob hac

  • Equilab

  • HorseStrides

  • Rideable

  • Enduro FIT

(Nid yw rhain wedi eu cymeradwyo gan EquiCymru ac mae'n bosib bydd cost i'w defnyddio)

Who Has Completed The Challenge

20 Miles

N/A

50 Miles

N/A

100 Miles

N/A

500 Miles

N/A

1000 Miles

N/A

bottom of page